Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
CLA539 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda newidiadau, ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989 (“Rheoliadau 1989”) i’r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).
CLA540 – Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael) (Terfynau’r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio cyfraddau presennol uchafsymiau’r disgownt sydd ar gael mewn perthynas ag arfer yr hawl i brynu o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”) a’r hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”).